Mae prosiect Elevate CYMRU yn rhan o raglen Dysgu Seiliedig ar Waith a ariennir gan Gydgyfeiriant, CGE Llywodraeth Cymru. Mae'n ddull Cymru Gyfan i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau lefel uchel o arweinyddiaeth a rheolaeth busnesau meicro, bychan, canolig a mawr. Arweinir y prosiect gan rwydwaith o bedair Prifysgol yn ardaloedd Cydgyfeirio Cymru. Bydd y modiwlau achrededig byr yma i roi sgiliau newydd i weithwyr a thrwy’r broses ychwanegu gwerth i dwf a chynaliadwyedd y cwmni sy’n eu cyflogi yn allweddol i lwyddiant y rhaglen.

I ddarganfod rhagor cliciwch yma
I ddarganfod rhagor cliciwch yma
I ddarganfod rhagor cliciwch yma
I ddarganfod rhagor cliciwch yma
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau ar gyfer rheolwyr canol ac uwch sydd eisiau datblygu eu busnes a chreu twf proffidiol. Mae cyrsiau yn hyblyg ac wedi eu cynllunio i wella sgiliau personol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth.
Mae ein holl gyrsiau galwedigaethol yn adeiladu ar y sgiliau a'r profiad sydd eisoes gan y gweithwyr gyda dysgu seiliedig ar waith, wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer y sefydliad cyflogi, ac yn ffurfio rhan bwysig o'n rhaglenni hyfforddiant rheolaeth.
Cyflwynir y Cyrsiau trwy gyfuniad o ddulliau dysgu, gan gwmpasu dysgu ar lein, cefnogaeth un i un a digwyddiadau rhwydweithio. Fe gyd -gysylltir damcaniaeth ac ymarfer i alluogi cyfranwyr i roi eu sgiliau newydd ar waith ar unwaith.

